1 Chronicles 1

O Adda i feibion Noa

(Genesis 5:1-32)

1Adda, Seth, Enosh, 2Cenan, Mahalal-el, Iered, 3Enoch, Methwsela, Lamech, 4Noa, Shem, Cham, a Jaffeth.

Disgynyddion Jaffeth

(Genesis 10:2-4)

5Meibion Jaffeth:

Gomer, Magog, Madai, Iafan, Twbal, Meshech, a Tiras.

6Disgynyddion Gomer oedd pobl Ashcenas, Riffath, a Togarma.

7Disgynyddion Iafan oedd pobl Elisha, Tarshish, Cittim, a Rhodos.

Disgynyddion Cham

(Genesis 10:6-8,13-18)

8Meibion Cham:

Cwsh, Mitsraïm, Pwt, a Canaan.

9Disgynyddion Cwsh oedd pobl Seba, Hafila, Sabta, Raama, a Sabtecha.

Disgynyddion Raama oedd pobl Sheba a Dedan.

10Cafodd Cwsh fab arall o'r enw Nimrod: y concwerwr cyntaf ar y ddaear.

11Disgynyddion Mitsraïm oedd y Lydiaid, Anamiaid, Lehabiaid (pobl Libia), Nafftwiaid, 12Pathrwsiaid, Caslwchiaid (y daeth y Philistiaid ohonyn nhw), a'r Cafftoriaid.

13Disgynyddion Canaan oedd pobl Sidon (o'i fab hynaf), a'r Hethiaid, 14y Jebwsiaid, Amoriaid, Girgasiaid, 15Hefiaid, Arciaid, Siniaid, 16Arfadiaid, Semariaid, a phobl Chamath.

Disgynyddion Shem

(Genesis 10:22-29; 11:10-26)

17Meibion Shem:

Elam, Ashŵr, Arffacsad, Lwd, ac Aram.

Disgynyddion Aram
1:17 Dydy'r geiriau Meibion Aram ddim yn yr Hebraeg. Ond gw. Genesis 10:23
oedd pobl Us, Chwl, Gether, a Meshech.

18Arffacsad oedd tad Shelach, a Shelach oedd tad Eber. 19Roedd gan Eber ddau fab – cafodd un ei alw'n Peleg, am mai dyna pryd y cafodd ieithoedd y byd eu rhannu.
1:19 Hebraeg,  palag
Enw ei frawd oedd Ioctan.

20Disgynyddion Ioctan oedd pobl Almodad, Sheleff, Chatsar-mafeth, Ierach, 21Hadoram, Wsal, Dicla, 22Obal, Abima-el, Sheba, 23Offir, Hafila, a Iobab. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Ioctan.

24Cangen arall o deulu Shem:
1:24 Cangen … Sem Dydy'r geiriau yma ddim yn yr Hebraeg

Shem, drwy Arffacsad, Shelach, 25Eber, Peleg, Reu, 26Serwg, Nachor, Tera, 27i Abram (sef Abraham).

28Meibion Abraham:

Isaac ac Ishmael.

29A dyma eu disgynyddion nhw:

Disgynyddion Ishmael

(Genesis 25:13-15)

Nebaioth oedd mab hynaf Ishmael, wedyn Cedar, Adbeël, Mifsam,
30Mishma, Dwma, Massa, Hadad, Tema, 31Ietwr, Naffish a Cedema. Y rhain oedd meibion Ishmael.

Disgynyddion Abraham drwy Cetwra

(Genesis 25:1-4)

32Meibion Cetwra, partner
1:32 partner Mae'r gair Hebraeg yn air am feistres neu bartner cyfreithlon oedd ddim yn wraig i ddyn yn ystyr lawnaf y gair.
Abraham:

Simran, Iocsan, Medan, Midian, Ishbac a Shwach.

Meibion Iocsan:

Sheba, a Dedan.

33Meibion Midian:

Effa, Effer, Hanoch, Abida, ac Eldaa. Roedd y rhain i gyd yn ddisgynyddion i Cetwra.

Disgynyddion Isaac

34Abraham oedd tad Isaac. A meibion Isaac oedd Esau ac Israel.

Disgynyddion Esau

(Genesis 36:10-19)

35Meibion Esau:

Eliffas, Reuel, Iewsh, Ialam, a Cora.

36Meibion Eliffas:

Teman, Omar, Seffi, Gatam, Cenas, a (drwy Timna) Amalec.

37Meibion Reuel:

Nachath, Serach, Shamma, a Missa.

Disgynyddion Seir

(Genesis 36:20-30)

38Meibion Seir:

Lotan, Shofal, Sibeon, Ana, Dishon, Etser a Dishan.

39Meibion Lotan:

Chori, a Homam (A Timna oedd chwaer Lotan.)

40Meibion Shofal:

Alïan, Manachath, Ebal, Sheffo ac Onam.

Meibion Sibeon:

Aia, ac Ana.

41Mab Ana:

Dishon.

Meibion Dishon:

Hemdan, Eshban, Ithran a Ceran.

42Meibion Etser:

Bilhan, Saafan, a Iacân.

Meibion Dishan:

Us ac Aran.

Brenhinoedd Edom

(Genesis 36:31-43)

43Dyma enwau brenhinoedd gwlad Edom yn y cyfnod cyn i Israel gael brenin:

Bela fab Beor, oedd yn dod o dref Dinhaba.

44Ar ôl i Bela farw dyma Iobab fab Serach o Bosra yn dod yn frenin yn ei le.

45Ar ôl i Iobab farw, Chwsham o ardal Teman ddaeth yn frenin.

46Ar ôl i Chwsham farw, Hadad fab Bedad o dre Afith ddaeth yn frenin. (Hadad wnaeth orchfygu Midian mewn brwydr yn Moab.)

47Ar ôl i Hadad farw dyma Samla o Masreca yn dod yn frenin.

48Ar ôl i Samla farw, Saul o Rehoboth ar Afon Ewffrates ddaeth yn frenin.

49Ar ôl i Saul farw dyma Baal-chanan fab Achbor yn dod yn frenin.

50Wedyn ar ôl i Baal-chanan farw dyma Hadad o dre Pai yn dod yn frenin. Enw ei wraig oedd Mehetafél (merch Matred ac wyres Me-sahab).

51Yna dyma Hadad yn marw.

Arweinwyr Llwythau Edom

A dyma enwau arweinwyr Edom:

Timna, Alfa, Ietheth, 52Oholibama, Ela, Pinon, 53Cenas, Teman, Miftsar, 54Magdiel ac Iram. Y rhain oedd arweinwyr llwythau Edom.

Copyright information for CYM